Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (241) |
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 6 ac 8 i 11. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 4 a 10 gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Dwristiaeth
Dechreuodd yr eitem am 15.01
NDM5670 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Dwristiaeth, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Tachwedd 2014.
Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 14 Ionawr 2015.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Dechreuodd yr eitem am 16.07
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM5639 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu cyflawni cynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylder yn y sbectrwm awtistig.
2. Yn nodi bod angen gwneud mwy i ddiwallu anghenion plant ac oedolion sydd ag awtistiaeth yng Nghymru.
3. Yn credu y byddai gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn arwain at fwy o eglurder ynghylch y gofal a'r cymorth y gall pobl ag awtistiaeth ei ddisgwyl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Awtistiaeth ar gyfer Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
21 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
5 Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 17.06
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5671 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi:
a) pwysigrwydd y diwydiant amaeth i economi, amgylchedd a chymunedau Cymru;
b) yr argyfwng yn y sector llaeth sy'n deillio o ostyngiad yn y prisiau llaeth a delir i ffermwyr ac ansefydlogrwydd y gadwyn laeth;
c) yr ansicrwydd o ran y taliad sylfaenol sy'n deillio o ddiddymu Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014 yn dilyn her barnwrol;
d) y bleidlais yn Senedd Ewrop i roi'r pŵer i aelod-wladwriaethau i awdurdodi cnydau GM i aelod-wladwriaethau, a'r ffaith mai Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad yng Nghymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda'r gadwyn laeth a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu'n benodol i sicrhau cynaliadwyedd hyfyw y cynhyrchwyr llaeth;
b) sicrhau adnoddau digonol ac amserlen gyraeddadwy i ddiogelu talu'r taliad sylfaenol ar 1 Rhagfyr 2015; ac
c) ail-ddatgan ei bwriad i gadw Cymru yn ddi-GM.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
17 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
6 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.18
7 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.19
NDM5669 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)
Dangos y faner goch i Gylchffordd Cymru – amlinellu'r pryderon am brosiect Cylchffordd Cymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.39
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 27 Ionawr 2015